Cymraeg / Welsh Saesneg / English
  • Croeso i'r Tad Barry English fydd gyda ni drwy'r haf
  • Lluniau: Lluniau'r Ffair Haf a Pharti Ffarwelio'r Tad Tony bellach wedi'u huwchlwytho

Neuadd yr Eglwys

Trefnu parti? Eisiau lle i’w gynnal? Does dim rhaid chwilio ymhellach. Dyma Ganolfan Gymunedol Sant Philip Evans. Mae’r lleoliad hyfryd yma ar gael am bris rhesymol iawn, sef £16.00 yr awr. Cewch ddewis i’r bar fod ar agor hefyd, am dal ychwanegol (ar hyn o bryd £12.20 yr awr am bob aelod o staff y bar). Mae gan y bar ystod eang o ddiodydd alcoholig a di-alcohol a’r prisiau yn arbennig o dda. Mae’r Ganolfan Gymunedol Sant Philip Evans yn gartref i Slimming World bob dydd Mercher, ac i ddosbarthiadau Zumba a Popstars Dance Studios bob nos Iau. Yn ogystal, mae bob math o bartïon a digwyddiadau wedi’u cynnal yno, gan gynnwys partïon penblwydd plant ac oedolion, partïon Bedydd a dyweddïo, derbyniadau priodas, gweithgareddau codi arian a chymunedol ynghyd â gweithgareddau’r Plwyf fel ein Ffair Haf a’n Marchnad Nadolig!

Ar ben hyn, rydyn ni’n gallu cynnig canolfan gynadledda, â lle hyd at 30 o bobl, a chyfleusterau cegin cyflawn os bydd y neuadd fawr yn fwy na’r eisiau i gwrdd â’ch anghenion. Defnyddir y ganolfan hon gan y gymuned Fyddar, UMC a litwrgi’r plant felly os byddwch yn bwriadu cynnal cyfarfod pwysig, noson harddwch neu ddysgu dosbarth, dyma’r lle i chi.

Mae gan ein canolfannau gyfleusterau ar gyfer pobl fyddar a nam eu clyw, maen nhw’n hwylus i gadeiriau olwyn, addas i deuluoedd. Rydych yn siŵr o gael croes cynnes a chyfeillgar, felly pam na wnewch chi e-bostio’r rheolwraig (e.kennedy@sphilipevans.co.uk) i drefnu amser i chi ddod a gweld y neuadd neu i’w llogi?

Brysiwch i fwcio dyddiad eich dathliad heddiw. Mae llefydd yn mynd yn gyflym!