- Croeso i'r Tad Barry English fydd gyda ni drwy'r haf
- Lluniau: Lluniau'r Ffair Haf a Pharti Ffarwelio'r Tad Tony bellach wedi'u huwchlwytho
Amdanom Ni
Offeiriad Cyflenwi: Tad Barry English
S Philip Evans, Rhodfa Llanedeyrn, Llanedeyrn, Caerdydd CF23 9UL
029 20 731 061 parishpriest@sphilipevans.co.uk
Diacon Plwyf: Y Parch. Steve Melhuish
02920193532 steve.melhuish@btinternet.com
Rhan o Archesgobaeth Caerdydd, rhif elusen gofrestredig: 242380
Agorwyd stad tai cyntaf Llanedeyrn yn 1968, a gwnaeth yr adeiladu barhau drwy’r 1970au yn Llanedeyrn a Phentwyn.
Sefydlwyd plwyf Sant Philip Evans yn 1975. I ddechrau, dathlwyd Offerennau’r Sul yn Ysgol Uwchradd Llanedeyrn. Symudodd yr Offerennau i Ysgol Sant Philip Evans wrth i’r ysgol agor ei drysau, hefyd yn 1975.
Yn ganlyniad o’r twf cyflym o dai a phoblogaeth yr ardal, roedd rhaid adeiladu ail ysgol gynradd Gatholig – Ysgol y Santes Bernadette ym Mhentwyn – ac aros tan fis Hydref 1985 i’r eglwys a thŷ’r Offeiriad gael eu hagor – yn dilyn blynyddoedd o godi arian gan gynulleidfa’r plwyf. Bendithiwyd carreg sylfaen yr eglwys gan y Pab Ioan Paul II wrth iddo ymweld â Chaerdydd yn 1982.
Y cam nesaf, ar ôl i’r eglwys gael ei hagor, oedd i adeiladu neuadd i’r plwyf yn ganolfan gymunedol a chymdeithasol. Fe gyflawnodd hyn yn 2000.
Ers ’ny, mae’r plwyf wedi elwa o agoriad Canolfan Archesgobaeth Caerdydd i Bobl Fyddar, a enwir yn gyffredin ‘Y Neuadd Fach’ sy’n rhoi digonedd o le i gyfarfodydd pan nad yw’n cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth i Bobl Fyddar.
Rhan o Archesgobaeth Caerdydd yw’r plwyf, ac mae’n gwasanaethu ardaloedd Llanedeyrn, Pentwyn a Phontprennau. Yn ogystal â’r ddwy ysgol gynradd a soniwyd amdanyn uchod, mae cysylltiadau agos ag Ysgol Uwchradd Corpus Christi a leolir yn agos iawn at ffiniau’r plwyf.
Mae’n blwyf dynodedig i Bobl Fyddar a thrwm eu clyw o fewn yr Archesgobaeth, ac hefyd yr eglwys lle dethlir Offeren Gymraeg wythnosol yr Archesgobaeth. Rydyn yn defnyddio’r tair iaith (Cymraeg, Iaith Arwyddo a Saesneg) yn gyson yn ein dathliadau litwrgaidd, ac mae ieithoedd eraill yn cael eu defnyddio’n achlysurol.